ATODLEN 1MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

24Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)

1

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 3 (ystyr “plentyn” etc.), yn is-adran (3), ar ôl ““plentyn”” mewnosoder “(ac eithrio yn adran 83(2C))”.

3

Yn adran 182 (darparu gwasanaethau eirioli: cyfyngiadau), yn is-adran (1)(d), yn lle “332BB of Ddeddf Addysg 1996” rhodder “69 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”.

4

Yn adran 196 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (6), ar ôl paragraff (c) mewnosoder —

ca

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 83(2B);

5

Yn adran 197 (dehongli cyffredinol a mynegai), yn y diffiniad o “plentyn”, ar ôl “(“child”)” mewnosoder “, ac eithrio yn adran 83(2C),”.

6

Yn Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), yn nhabl 1—

a

hepgorer y cofnod ar gyfer Deddf Addysg 1996 (adran 322 o’r Ddeddf honno);

b

mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y lle priodol—

Deddf Plant a Theuluoedd 2014

Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 31, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.

c

mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y lle priodol—

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 65, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Dyletswydd i arfer swyddogaethau i ddarparu gwybodaeth neu help arall ar gais gan awdurdod lleol at ddiben arfer swyddogaethau gan yr awdurdod lleol hwnnw o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.