ATODLEN 1MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)
24
(1)
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 3 (ystyr “plentyn” etc.), yn is-adran (3), ar ôl ““plentyn”” mewnosoder “(ac eithrio yn adran 83(2C))”.
(3)
Yn adran 182 (darparu gwasanaethau eirioli: cyfyngiadau), yn is-adran (1)(d), yn lle “332BB of Ddeddf Addysg 1996” rhodder “69 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”.
(4)
“(ca)
y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 83(2B);”.
(5)
Yn adran 197 (dehongli cyffredinol a mynegai), yn y diffiniad o “plentyn”, ar ôl “(“child”)” mewnosoder “, ac eithrio yn adran 83(2C),”.
(6)
Yn Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), yn nhabl 1—
(a)
hepgorer y cofnod ar gyfer Deddf Addysg 1996 (adran 322 o’r Ddeddf honno);
(b)
“Deddf Plant a Theuluoedd 2014
Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 31, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.”
(c)
“Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 65, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
Dyletswydd i arfer swyddogaethau i ddarparu gwybodaeth neu help arall ar gais gan awdurdod lleol at ddiben arfer swyddogaethau gan yr awdurdod lleol hwnnw o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.”