RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 5CYFFREDINOL

Rhoi hysbysiad etc.

I2I1C188Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol, neu’n awdurdodi (ar ba delerau bynnag) corff llywodraethu neu awdurdod lleol i—

a

hysbysu person am rywbeth, neu

b

rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

2

Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i’r person o dan sylw—

a

drwy ddanfon yr hysbysiad neu’r ddogfen at y person,

b

drwy anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen drwy’r post i gyfeiriad cywir y person,

c

drwy adael yr hysbysiad neu’r ddogfen yng nghyfeiriad cywir y person, neu

d

os yw’r amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni, drwy anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig.

3

Ni chaiff corff llywodraethu nac awdurdod lleol anfon hysbysiad neu ddogfen at berson yn electronig ond os yw’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni—

a

rhaid i’r person y mae’r hysbysiad i gael ei roi iddo neu y mae’r ddogfen i gael ei rhoi iddo—

i

bod wedi nodi wrth y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol barodrwydd i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig, a

ii

bod wedi darparu i’r corff llywodraethu neu i’r awdurdod lleol gyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw, a

b

mae’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol yn anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen i’r cyfeiriad hwnnw.

4

At ddibenion yr adran hon ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) fel y mae’n gymwys i’r adran hon, cyfeiriad cywir person yw cyfeiriad hysbys diwethaf y person.

5

Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person i gael ei drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi ar yr adeg y gadawyd yr hysbysiad neu’r ddogfen yn y cyfeiriad hwnnw.

F16

Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig yn unol â’r adran hon i gael ei drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod yr anfonwyd y cyfathrebiad electronig.