RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL
Swyddogaethau amrywiol
I3I12I863Dyletswydd i gadw darpariaeth ddysgu ychwanegol o dan adolygiad
1
Rhaid i awdurdod lleol gadw o dan adolygiad y trefniadau a wneir gan yr awdurdod a chan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y graddau y mae’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn ddigonol i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt, gan roi sylw i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a all gael ei threfnu’n rhesymol gan eraill.
3
Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn cynnwys dyletswydd i ystyried—
a
digonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;
b
maint a gallu’r gweithlu sydd ar gael.
4
Os bydd awdurdod lleol yn ystyried nad yw’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) (gan gynnwys y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ar gael yn Gymraeg) yn ddigonol, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i unioni’r mater.
5
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau, ac ar unrhyw adegau, y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
I2I9I1364Dyletswydd cyrff iechyd i hysbysu rhieni etc.
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff iechyd a grybwyllir yn is-adran (2), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol ac y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdano, yn ffurfio barn bod gan y plentyn, neu ei bod yn debygol bod gan y plentyn, anghenion dysgu ychwanegol.
2
Y cyrff iechyd yw—
a
Bwrdd Iechyd Lleol;
b
ymddiriedolaeth GIG;
c
grŵp comisiynu clinigol;
d
ymddiriedolaeth sefydledig GIG;
e
Awdurdod Iechyd Arbennig.
C13
Rhaid i’r corff iechyd roi gwybod i riant y plentyn am ei farn ac am ei ddyletswydd yn is-adran (4).
C14
Ar ôl rhoi cyfle i’r rhiant i drafod barn y corff iechyd â swyddog o’r corff, rhaid i’r corff iechyd ddwyn y farn i sylw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu, os yw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal, i sylw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, os yw’r corff iechyd wedi ei fodloni y byddai gwneud hynny er lles pennaf y plentyn.
5
Os yw’r corff iechyd o’r farn bod sefydliad gwirfoddol penodol yn debygol o allu rhoi cyngor neu gymorth arall i’r rhiant mewn cysylltiad ag unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a all fod gan y plentyn, rhaid iddo roi gwybod i’r rhiant yn unol â hynny.
I1I7I10I1465Dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arall
1
Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) arfer swyddogaethau’r person i ddarparu gwybodaeth neu help arall i’r awdurdod, sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
2
Rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—
a
yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu
b
fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person.
3
Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais.
4
Y personau yw—
a
awdurdod lleol arall;
b
awdurdod lleol yn Lloegr;
c
corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;
d
corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;
e
perchennog Academi;
f
tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;
g
person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;
h
Bwrdd Iechyd Lleol;
i
ymddiriedolaeth GIG;
j
Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
k
grŵp comisiynu clinigol;
l
ymddiriedolaeth sefydledig GIG;
m
Awdurdod Iechyd Arbennig.
5
Caiff rheoliadau ddarparu, pan fo person o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan yr adran hon, fod rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.
I5I15I1166Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a sefydliadau eraill
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan y Rhan hon ar gyfer plentyn neu berson ifanc.
2
Mae hawl gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i gael mynediad ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fan lle y darperir addysg neu hyfforddiant ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ym mangre sefydliad a restrir yn is-adran (3) os yw mynediad i’r man hwnnw’n angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon.
3
Y sefydliadau yw—
a
ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;
b
ysgol a gynhelir yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr;
c
sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;
d
Academi;
e
ysgol arbennig nas cynhelir;
f
sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o dan adran 56.
I4I667Darparu nwyddau neu wasanaethau mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol
1
Caiff rheoliadau ddarparu i awdurdod lleol gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i—
a
person sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu
b
person sy’n gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.
2
Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, ddarparu ar gyfer y telerau a’r amodau y caniateir i nwyddau a gwasanaethau gael eu cyflenwi yn unol â hwy.