xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 1TERMAU ALLWEDDOL, Y COD A CHYFRANOGIAD

Termau allweddol

2Anghenion dysgu ychwanegol

(1)Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(2)Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd—

(a)os yw’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu

(b)os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

(3)Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn is-adran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud.

(4)Os yw’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy’n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny’n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

3Darpariaeth ddysgu ychwanegol

(1)Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i berson sy’n dair oed neu’n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy’n ychwanegol at yr hyn, neu sy’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o’r un oedran—

(a)mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru,

(b)mewn sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu

(c)mewn mannau yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin.

(2)Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i blentyn sy’n iau na thair oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

(3)Yn is-adran (1), ystyr “addysg feithrin” yw addysg sy’n addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol.

(4)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon i roi cyfeiriadau at oedran gwahanol yn lle’r cyfeiriadau at dair oed.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

Cod ymarfer

4Cod anghenion dysgu ychwanegol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ar anghenion dysgu ychwanegol (“y cod”) a chânt ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.

(2)Caiff y cod gynnwys canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac ynghylch unrhyw fater arall sy’n gysylltiedig â nodi a diwallu anghenion dysgu ychwanegol.

(3)Rhaid i’r personau a ganlyn, wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn y cod—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)perchennog Academi;

(e)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(f)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)Bwrdd Iechyd Lleol;

(h)ymddiriedolaeth GIG;

(i)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

(j)grŵp comisiynu clinigol;

(k)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(l)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(4)Gweler adran 153 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) am ddarpariaeth ynghylch awdurdodau lleol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr penodol addysg feithrin roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y cod.

(5)Caiff y cod osod gofynion—

(a)ar awdurdod lleol mewn cysylltiad â threfniadau y mae rhaid iddo eu gwneud o dan adrannau 9 (cyngor a gwybodaeth), 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol);

(b)ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol mewn cysylltiad â—

(i)penderfyniadau ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol,

(ii)llunio, cynnwys, ffurf, adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol, neu

(iii)peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigol;

(c)ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth at ddibenion y Rhan hon.

(6)Rhaid i’r cod gynnwys y gofynion a ganlyn ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol—

(a)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(i) i’r hysbysiad o benderfyniad nad oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol gael ei roi yn unol ag adran 11(4), 13(3), 18(3) neu 40(4) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;

(b)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i lunio cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono yn unol ag adran 22 neu 40(5) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;

(c)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i ddefnyddio’r ffurf safonol briodol a nodir yn y cod ar gyfer cynllun datblygu unigol; a rhaid i’r cod gynnwys un neu ragor o ffurfiau safonol at y diben hwn.

(7)Caiff y cod wneud—

(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol, a

(b)darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed,

mewn perthynas â gofyniad a osodir o dan is-adran (5) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 7(4) neu 8(4).

(8)Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (3) a dyletswydd a osodir o dan is-adran (5) hefyd yn gymwys i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3).

(9)Nid yw’r pŵer i osod gofynion o dan is-adran (5)(c) yn cynnwys y pŵer i osod gofynion mewn cysylltiad â datgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, ac eithrio mewn achosion pan fo’r person yn rhiant i blentyn ac mai’r plentyn yw testun y data; ac yn yr is-adran hon mae i “data personol” a “testun y data” yr ystyr a roddir i “personal data” a “data subject” gan Ddeddf Diogelu Data 1998 (p. 29).

(10)Rhaid i Dribiwnlys Addysg Cymru roi sylw i unrhyw ddarpariaeth yn y cod yr ymddengys iddo ei bod yn berthnasol i gwestiwn sy’n codi ar apêl o dan y Rhan hon.

(11)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cod sydd mewn grym am y tro ar eu gwefan.

5Y weithdrefn ar gyfer gwneud y cod

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 4, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ar ddrafft o’r cod—

(a)pob awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(c)corff llywodraethu pob sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru;

(d)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(e)Comisiynydd Plant Cymru;

(f)Comisiynydd y Gymraeg;

(g)y pwyllgor perthnasol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru y mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys addysg plant a phobl ifanc;

(h)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cod oni bai bod drafft ohono wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu cymeradwyo drafft o’r cod—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)(b)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y cod i rym.

(6)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god yn cynnwys cod diwygiedig.

(7)Caniateir i’r gofyniad i ymgynghori a osodir gan is-adran (1) gael ei fodloni drwy gynnal ymgynghoriad cyn y daw’r Rhan hon i rym.

Cyfranogiad, confensiynau’r Cenhedloedd Unedig a mynediad at wybodaeth

6Dyletswydd i gynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw—

(a)i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn a’i riant neu’r person ifanc,

(b)i bwysigrwydd bod y plentyn a’i riant neu’r person ifanc yn cymryd rhan mor llawn â phosibl mewn penderfyniadau sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth o dan sylw, ac

(c)i bwysigrwydd bod yr wybodaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol yn cael eu darparu i’r plentyn ac i riant y plentyn neu i’r person ifanc er mwyn eu galluogi neu ei alluogi i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.

7Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

(1)Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i dderbyn gan benderfyniad 44/25 y Cynulliad Cyffredinol ar 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).

(2)At ddibenion is-adran (1), mae Rhan 1 o’r Confensiwn i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith—

(a)fel y’i nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2), ond

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y'u nodir am y tro yn Rhan 3 o'r Atodlen honno.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.

(4)Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(5)Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

8Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

(1)Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc anabl roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a’i brotocol dewisol a fabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2006 gan benderfyniad A/RES/61/106 y Cynulliad Cyffredinol ac a agorwyd i’w lofnodi ar 30 Mawrth 2007 (“y Confensiwn”).

(2)Mae’r Confensiwn i’w drin fel petai iddo effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl ei gadarnhau, ac eithrio pan fo’r datganiad neu’r neilltuad wedi ei dynnu’n ôl wedi hynny.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.

(4)Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(5)Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

9Cyngor a gwybodaeth

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i bobl ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan y Rhan hon.

(2)Wrth wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i wybodaeth a chyngor a ddarperir o dan y trefniadau gael eu darparu mewn modd diduedd.

(3)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau a wneir o dan yr adran hon, adrannau 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol) yn hysbys i—

(a)plant a phobl ifanc yn ei ardal,

(b)rhieni plant yn ei ardal,

(c)plant y mae’n gofalu amdanynt sydd y tu allan i’w ardal,

(d)cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal,

(e)cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach yn ei ardal,

(f)cyfeillion achos plant yn ei ardal, ac

(g)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(4)Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi ei hysbysu am drefniadau o dan is-adran (3), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i—

(a)disgyblion yr ysgol a’u rhieni, a

(b)cyfeillion achos y disgyblion.

(5)Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach wedi ei hysbysu am drefniadau o dan is-adran (3), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i fyfyrwyr y sefydliad.