Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid

8Gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn mis i’r adran hon ddod i rym—

(a)

llunio dogfen yn cynnwys gwybodaeth y maent yn ystyried y bydd yn cynorthwyo tenantiaid a darpar denantiaid i ddeall effaith y Ddeddf hon, a

(b)

cyhoeddi’r wybodaeth ar wefan a gynhelir ar eu rhan.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, o fewn mis i’r adran hon ddod i rym, gymryd pob cam rhesymol i ddarparu copi o’r wybodaeth i—

(a)

pob landlord cymwys;

(b)

unrhyw gyrff yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid yng Nghymru;

(c)

unrhyw gyrff yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau tai lleol;

(d)

unrhyw gyrff yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig;

(e)

unrhyw gyrff eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)

Rhaid i’r wybodaeth, yn benodol, gynnwys y canlynol—

(a)

y dyddiad y bydd yr hawl i brynu a’r hawl i gaffael yn peidio â bod yn arferadwy mewn perthynas ag anheddau penodol yn rhinwedd adran 121ZA o Ddeddf Tai 1985 (Housing Act 1985 (c. 68)) ac adran 16B o Ddeddf Tai 1996 (Housing Act 1996 (c. 52)),

(b)

y dyddiad y bydd yr hawl i brynu a’r hawl i gaffael yn peidio â bodoli mwyach yng Nghymru, ac

(c)

unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y bydd yn cynorthwyo tenantiaid a darpar denantiaid i ddeall effaith y Ddeddf hon.

(4)

Rhaid i bob landlord cymwys, o fewn dau fis i’r adran hon ddod i rym neu, os yw’n gynharach, o fewn mis i dderbyn copi o’r wybodaeth a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (1)—

(a)

darparu i bob un o’i denantiaid perthnasol, hynny o’r wybodaeth y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol iddynt (y mae’n rhaid iddi, yn benodol, gynnwys yr wybodaeth a grybwyllir yn is-adran (3)(a) a (b)),

(b)

cyhoeddi hynny o’r wybodaeth y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol i’w denantiaid a’i ddarpar denantiaid ar ei wefan (y mae’n rhaid iddi, yn benodol, gynnwys yr wybodaeth a grybwyllir yn is-adran (3)(a) a (b)), ac

(c)

sicrhau bod copi o’r wybodaeth a gyhoeddir yn unol â pharagraff (b) ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) ym mha bynnag fannau y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(5)

Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo, ar ôl y diwrnod y mae’r adran hon yn dod i rym—

(a)

person yn cynnig gosod annedd yng Nghymru o dan denantiaeth ddiogel neu denantiaeth ragarweiniol, neu

(b)

person sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr preifat cofrestredig tai cymdeithasol yn cynnig gosod annedd yng Nghymru o dan denantiaeth sicr (ac eithrio tenantiaeth hir).

(6)

Rhaid i’r person sy’n gwneud y cynnig (y “darpar landlord”), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cynnig gael ei wneud, ddarparu i’r darpar denant hynny o’r wybodaeth a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (1) y mae’r darpar landlord yn ystyried ei bod yn berthnasol i’r darpar denant (y mae’n rhaid iddi, yn benodol, gynnwys yr wybodaeth a grybwyllir yn is-adran (3)(a) a (b)).

(7)

Wrth wneud trefniadau at ddibenion darparu gwybodaeth o dan is-adrannau (4)(a) a (6), rhaid i landlord neu ddarpar landlord—

(a)

rhoi sylw i anghenion a nodweddion tebygol, mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth, y personau y mae’r wybodaeth o dan sylw i’w darparu iddynt, a

(b)

ystyried a yw’n briodol, gan roi sylw i’r anghenion a’r nodweddion hynny, darparu’r wybodaeth, neu unrhyw ran ohoni, i unrhyw un neu ragor o’r personau hynny mewn modd sy’n wahanol i’r modd y byddai’n cael ei darparu fel arfer.

(8)

Yn yr adran hon—

(a)

ystyr “awdurdod tai lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)

ystyr “landlord cymwys” yw—

(i)

landlord sy’n gosod annedd yng Nghymru o dan denantiaeth ddiogel;

(ii)

landlord cymdeithasol cofrestredig;

(iii)

darparwr preifat cofrestredig tai cymdeithasol sy’n gosod annedd yn Nghymru (gweler adran 80(3) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (Housing and Regeneration Act 2008 (c. 17));

(c)

ystyr “tenant perthnasol” yw—

(i)

tenant sydd â thenantiaeth ddiogel, tenantiaeth ragarweiniol neu denantiaeth isradd ar annedd yng Nghymru, os oedd y denantiaeth honno’n bodoli ar y diwrnod y daeth yr adran hon i rym;

(ii)

mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr preifat cofrestredig tai cymdeithasol yn unig, tenant sydd â thenantiaeth sicr ar annedd yng Nghymru (ac eithrio tenantiaeth hir), os oedd y denantiaeth honno’n bodoli ar y diwrnod y daeth yr adran hon i rym;

(d)

mae i “tenantiaeth ddiogel”, “tenantiaeth ragarweiniol” a “tenantiaeth hir” yr un ystyr ag sydd i “secure tenancy”, “introductory tenancy” a “long tenancy” yn Neddf Tai 1985;

(e)

ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” yw corff a gofrestrwyd ar y gofrestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Tai 1996;

(f)

mae i “tenantiaeth sicr” yr un ystyr ag sydd i “assured tenancy” yn Neddf Tai 1988 (Housing Act 1988 (c. 60)) (ac mae’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr);

(g)

ystyr “tenantiaeth isradd” yw tenantiaeth y mae adran 143A o Ddeddf Tai 1996 yn gymwys iddi.