Adran 4 – Cyfyngiad ar arfer yr hawl i gaffael
21.Mae’r adran hon yn diwygio Deddf Tai 1996. Mae’n mewnosod adran 16B newydd yn y Ddeddf honno i gyfyngu ar hawl tenantiaid diogel neu denantiaid sicr i arfer yr hawl i gaffael cartrefi yng Nghymru mewn amgylchiadau penodol.
22.O ganlyniad i adran 4, ni fydd modd arfer yr hawl i gaffael yng Nghymru, fel rheol, oni bai bod y cartref wedi ei osod o dan un o’r tenantiaethau cymdeithasol a restrir yn adran 16B(2) ar ryw adeg yn ystod y chwe mis cyn i adran 4 ddod i rym (bod y cartref o stoc tai cymdeithasol a osodwyd yn flaenorol). Fel yn achos adran 121ZA yng nghyd-destun yr hawl i brynu, ceir eithriadau i’r rheol gyffredinol hon, a nodir yn adran 16C, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf hon.
23.Effaith y diwygiad a wneir gan adran 4 yw nad yw tenant sy’n symud i gartref sy’n newydd i’r stoc tai cymdeithasol yn gallu arfer yr hawl i gaffael mewn perthynas â’r cartref hwnnw.
24.Ond bydd amser a dreuliwyd mewn cartref o’r fath yn dal yn gymwys at ddibenion yr hawl i gaffael os yw’r tenant yn symud i gartref arall, a bod modd arfer yr hawl i gaffael mewn perthynas â’r cartref hwnnw (cyhyd â bod hynny wedi digwydd cyn i adran 6 ddiddymu’r hawl i gaffael). Yn yr amgylchiadau hynny, ni fydd y ffaith bod y tenant wedi treulio amser mewn cartref nad oedd modd arfer yr hawl i gaffael mewn perthynas ag ef yn effeithio ar ddisgownt y tenant ar gyfer yr hawl i gaffael.
25.Mae adran 4(4) yn diwygio adran 21 o Ddeddf Tai 1996 er mwyn ychwanegu is-adran (2A) newydd. O dan adran 21(2) o Ddeddf 1996, mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi grant i ad-dalu landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr preifat cofrestredig tai cymdeithasol mewn amgylchiadau pan fo’r landlord wedi rhoi disgownt i denant sydd wedi prynu eiddo nad oedd yn ddarostyngedig i’r hawl i gaffael, os oedd gan y tenant hwnnw hawl i arfer yr hawl i gaffael mewn perthynas ag eiddo arall yr oedd y landlord yn berchen arno.
26.Effaith yr adran 21(2A) newydd yw nad oes dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi grant i ad-dalu disgownt o’r fath oni bai bod yr eiddo o stoc tai a osodwyd yn flaenorol, neu’n destun un o’r eithriadau a nodir yn adran 16C.
27.Golyga hyn, os yw landlord cymdeithasol wedi rhoi disgownt o’i wirfodd i denant mewn perthynas â chartref sydd o stoc tai cymdeithasol newydd, nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ad-dalu’r landlord hyd yn oed os oedd gan y tenant yr hawl i gaffael mewn perthynas ag eiddo arall. Mae hyn yn cysoni’r darpariaethau yn adran 21 â’r darpariaethau i gyfyngu ar arfer yr hawl i gaffael mewn perthynas â stoc tai cymdeithasol newydd.