Nodiadau Esboniadol i Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 Nodiadau Esboniadol

Adran 11 - Dod i rym

38.Mae’r adran hon yn darparu bod adran 8 (gwybodaeth i denantiaid), ymysg eraill, yn dod i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

39.Mae’r adran hon hefyd yn darparu bod adrannau 2 i 5 (sy’n cyfyngu tenantiaid rhag arfer yr hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd a’r hawl i gaffael oni bai bod yr annedd o stoc tai cymdeithasol a osodwyd yn flaenorol) yn dod i rym ddau fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.

40.Caiff adran 6 (sy’n diddymu’r hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd a’r hawl i gaffael, ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol perthnasol) ac adran 7 (sy’n diddymu pŵer Gweinidogion Cymru i roi grantiau i ad-dalu disgowntiau gwirfoddol) eu dwyn i rym drwy orchymyn. Ni ellir eu dwyn i rym yn gynharach na 12 mis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, fodd bynnag.

Back to top