xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

CyffredinolLL+C

9Pŵer drwy reoliadau i wneud diwygiadau canlyniadol etc.LL+C

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, ddarfodol neu drosiannol neu unrhyw ddarpariaeth arbed y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i, neu at ddiben rhoi effaith lawn i, unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon neu unrhyw ddarpariaeth a wneir oddi tani (pa un ai o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) neu oddi tani, neu fel arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

10Darparieth bellach ynghylch rheoliadau o dan adran 9LL+C

(1)Mae’r pŵer yn adran 9 i wneud rheoliadau yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Caiff rheoliadau o dan adran 9 ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth o’r Ddeddf hon).

(3)Os yw’r is-adran hon yn gymwys, ni chaniateir i reoliadau o dan adran 9 gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo rheoliadau o dan adran 9 yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pa un a yw’r offeryn statudol yn cynnwys unrhyw reoliadau eraill ai peidio.

(5)Pan na fo is-adran (3) yn gymwys, mae rheoliadau o dan adran 9 yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 10 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

11Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adran hon ac adrannau 1, 8, 9, 10 a 12 i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw adrannau 2 i 5 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Daw adrannau 6 a 7 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru bennu diwrnod i unrhyw un neu ragor o adrannau 6 neu 7 ddod i rym sydd cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(5)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon wneud darpariaeth ddarfodol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod ag unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 11 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)

12Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 12 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 11(1)