Welsh Royal arms

Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017

2017 dccc 4

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch gweithredu diwydiannol a gweithgarwch undebau llafur mewn perthynas â gweithrediadau awdurdodau cyhoeddus datganoledig a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt.

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

F11Diwygiadau i Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

2Gwaharddiad ar ddefnyddio gweithwyr dros dro i gymryd lle staff yn ystod gweithredu diwydiannol

(1)

Ni chaiff awdurdod datganoledig Cymreig hurio gweithiwr a gyflenwyd gan berson sy’n cynnal busnes cyflogaeth i gyflawni—

(a)

dyletswyddau a gyflawnir fel arfer gan aelod o’i staff (“S”) pan fo S yn cymryd rhan mewn streic neu weithredu diwydiannol arall, neu

(b)

dyletswyddau unrhyw aelod arall o’i staff a neilltuwyd i gyflawni’r dyletswyddau a gyflawnir fel arfer gan S.

(2)

Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys pan fo’r streic neu’r gweithredu diwydiannol arall yn answyddogol.

(3)

At ddiben yr adran hon mae streic neu weithredu diwydiannol arall yn answyddogol pe bai’n cael ei ystyried yn “unofficial” at ddiben adran 237 o Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (Trade Union and Labour Relations (Consolidation) Act 1992 (c.52)).

(4)

Yn yr adran hon—

mae i “awdurdod datganoledig Cymreig” yr un ystyr â “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Government of Wales Act 2006 (c.32));

mae i “busnes cyflogaeth” yr un ystyr ag “employment business” yn adran 13(3) o Ddeddf Asiantaethau Cyflogaeth 1973 (Employment Agencies Act 1973 (c. 35)).

Annotations:
Commencement Information

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 3

I2A. 2 mewn grym ar 13.9.2017 gan O.S. 2017/903, ergl. 2

3Dod i rym

Daw’r darpariaethau yn adran 1 ac adran 2 i rym ar ddiwrnod (neu ddiwrnodau) a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir gan offeryn statudol (a daw’r adran hon ac adran 4 i rym ar y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol).

Annotations:
Commencement Information

I3A. 3 mewn grym ar 8.9.2017, gweler a. 3

4Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017.