Search Legislation

Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

96Dehongli

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;

  • ystyr “busnes tirlenwi” (“landfill business”) yw busnes, neu ran o fusnes, y mae person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy fel rhan ohono;

  • ystyr “cofrestredig” (“registered”) yw cofrestredig o dan adran 35 ac ystyr “cofrestru”(“registration”) yw cofrestru o dan yr adran honno;

  • nid yw “corff anghorfforedig” (“unincorporated body”) yn cynnwys partneriaeth;

  • mae i “cyfnod cyfrifyddu” (“accounting period”) yr ystyr a roddir gan adran 39(5);

  • mae i “cymysgedd cymwys o ddeunyddiau” (“qualifying mixture of materials”) yr ystyr a roddir gan adran 16;

  • ystyr “DCRhT” (“TCMA”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6);

  • ystyr “deddfiad sy’n ymwneud â’r dreth” (“enactment relating to the tax”) yw—

    (a)

    y Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani;

    (b)

    DCRhT a rheoliadau a wneir oddi tani, fel y maent yn gymwys mewn perthynas â’r dreth;

  • ystyr “deunydd” (“material”) yw deunydd o bob math, gan gynnwys gwrthrychau, sylweddau a chynhyrchion o bob math;

  • mae i “deunydd cymwys” (“qualifying material”) yr ystyr a roddir gan adran 15;

  • ystyr “DTTT” (“LTTA”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1);

  • mae i “dyddiad ffeilio” (“filing date”), mewn perthynas â ffurflen dreth, yr ystyr a roddir gan adran 39(4);

  • ystyr “ffurflen dreth” (“tax return”) yw ffurflen dreth y mae’n ofynnol i berson ei dychwelyd o dan adran 39;

  • ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a gedwir o dan adran 34;

  • mae i “gwaith adfer” (“restoration work”) yr ystyr a roddir gan adran 8(4);

  • ystyr “gwarediad tirlenwi” (“landfill disposal”) yw gwarediad deunydd—

    (a)

    drwy dirlenwi, a

    (b)

    fel gwastraff;

  • ystyr “gweithgarwch safle tirlenwi” (“landfill site activity”) yw derbyn deunydd, cadw deunydd, didoli deunydd, defnyddio deunydd, trin deunydd, adfer deunydd neu wneud unrhyw beth arall â deunydd ar safle tirlenwi;

  • mae i “gweithredwr” (“operator”), mewn perthynas â safle tirlenwi awdurdodedig, yr ystyr a roddir gan adran 7(4);

  • ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

  • ystyr “man gwarediadau tirlenwi” (“landfill disposal area”) yw man ar safle tirlenwi lle y gwneir gwarediadau tirlenwi, neu fan lle y gwnaed gwarediadau o’r fath neu fan lle y bydd gwarediadau o’r fath yn cael eu gwneud;

  • ystyr “man nad yw at ddibenion gwaredu” (“non-disposal area”) yw man a ddynodir o dan adran 55;

  • ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—

    (a)

    partneriaeth o fewn Deddf Bartneriaeth 1890 (p. 39),

    (b)

    partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24), neu

    (c)

    partneriaeth neu endid tebyg ei gymeriad a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “safle tirlenwi” (“landfill site”) yw—

    (a)

    safle tirlenwi awdurdodedig, neu

    (b)

    unrhyw dir arall lle y gwneir gwarediadau tirlenwi;

  • mae i “safle tirlenwi awdurdodedig” (“authorised landfill site”) yr ystyr a roddir gan adran 5(1);

  • mae “tir” (“land”) yn cynnwys tir a orchuddir â dŵr lle bo’r tir uwchlaw’r marc distyll gorllanw arferol;

  • ystyr “treth” (“tax”) yw treth gwarediadau tirlenwi;

  • ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yw—

    (a)

    Tribiwnlys yr Haen Gyntaf, neu

    (b)

    pan bennir hynny gan neu o dan Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlys, yr Uwch Dribiwnlys;

  • mae i “trwydded amgylcheddol” (“environmental permit”) yr ystyr a roddir gan adran 5(2).

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at waredu deunydd drwy dirlenwi i’w dehongli yn unol ag adran 4;

(b)mae cyfeiriadau at waredu deunydd fel gwastraff i’w dehongli yn unol ag adran 6 (a gweler adran 7 hefyd);

(c)mae cyfeiriadau at weithgarwch safle tirlenwi penodedig i’w dehongli yn unol ag adran 8;

(d)mae cyfeiriadau at berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy i’w dehongli yn unol ag adran 34(2).

(3)At ddibenion y Ddeddf hon, mae apêl wedi ei dyfarnu’n derfynol—

(a)pan fydd dyfarniad wedi ei roi, a

(b)pan na fo unrhyw bosibilrwydd pellach o amrywio’r dyfarniad na’i roi o’r neilltu (gan ddiystyru unrhyw bŵer i roi caniatâd i apelio ar ôl yr amser a bennir ar gyfer dwyn apêl).

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, gellir llunio disgrifiad drwy gyfeirio at unrhyw faterion neu amgylchiadau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources