RHAN 6DARPARIAETHAU TERFYNOL

96Dehongli

(1)

Yn y Ddeddf hon—

ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;

ystyr “busnes tirlenwi” (“landfill business”) yw busnes, neu ran o fusnes, y mae person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy fel rhan ohono;

ystyr “cofrestredig” (“registered”) yw cofrestredig o dan adran 35 ac ystyr “cofrestru”(“registration”) yw cofrestru o dan yr adran honno;

nid yw “corff anghorfforedig” (“unincorporated body”) yn cynnwys partneriaeth;

F1ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth o dan reoliadau a wneir o dan adran 54;

mae i “cyfnod cyfrifyddu” (“accounting period”) yr ystyr a roddir gan adran 39(5);

mae i “cymysgedd cymwys o ddeunyddiau” (“qualifying mixture of materials”) yr ystyr a roddir gan adran 16;

ystyr “DCRhT” (“TCMA”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6);

ystyr “deddfiad sy’n ymwneud â’r dreth” (“enactment relating to the tax”) yw—

(a)

y Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani;

(b)

DCRhT a rheoliadau a wneir oddi tani, fel y maent yn gymwys mewn perthynas â’r dreth;

ystyr “deunydd” (“material”) yw deunydd o bob math, gan gynnwys gwrthrychau, sylweddau a chynhyrchion o bob math;

mae i “deunydd cymwys” (“qualifying material”) yr ystyr a roddir gan adran 15;

mae i “dyddiad ffeilio” (“filing date”), mewn perthynas â ffurflen dreth, yr ystyr a roddir gan adran 39(4);

ystyr “ffurflen dreth” (“tax return”) yw ffurflen dreth y mae’n ofynnol i berson ei dychwelyd o dan adran 39;

ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a gedwir o dan adran 34;

mae i “gwaith adfer” (“restoration work”) yr ystyr a roddir gan adran 8(4);

ystyr “gwarediad tirlenwi” (“landfill disposal”) yw gwarediad deunydd—

(a)

drwy dirlenwi, a

(b)

fel gwastraff;

ystyr “gweithgarwch safle tirlenwi” (“landfill site activity”) yw derbyn deunydd, cadw deunydd, didoli deunydd, defnyddio deunydd, trin deunydd, adfer deunydd neu wneud unrhyw beth arall â deunydd ar safle tirlenwi;

mae i “gweithredwr” (“operator”), mewn perthynas â safle tirlenwi awdurdodedig, yr ystyr a roddir gan adran 7(4);

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

ystyr “man gwarediadau tirlenwi” (“landfill disposal area”) yw man ar safle tirlenwi lle y gwneir gwarediadau tirlenwi, neu fan lle y gwnaed gwarediadau o’r fath neu fan lle y bydd gwarediadau o’r fath yn cael eu gwneud;

ystyr “man nad yw at ddibenion gwaredu” (“non-disposal area”) yw man a ddynodir o dan adran 55;

ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—

(a)

partneriaeth o fewn Deddf Bartneriaeth 1890 (p. 39),

(b)

partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24), neu

(c)

partneriaeth neu endid tebyg ei gymeriad a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

ystyr “safle tirlenwi” (“landfill site”) yw—

(a)

safle tirlenwi awdurdodedig, neu

(b)

unrhyw dir arall lle y gwneir gwarediadau tirlenwi;

mae i “safle tirlenwi awdurdodedig” (“authorised landfill site”) yr ystyr a roddir gan adran 5(1);

mae “tir” (“land”) yn cynnwys tir a orchuddir â dŵr lle bo’r tir uwchlaw’r marc distyll gorllanw arferol;

ystyr “treth” (“tax”) yw treth gwarediadau tirlenwi;

ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yw—

(a)

Tribiwnlys yr Haen Gyntaf, neu

(b)

pan bennir hynny gan neu o dan Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlys, yr Uwch Dribiwnlys;

mae i “trwydded amgylcheddol” (“environmental permit”) yr ystyr a roddir gan adran 5(2).

(2)

Yn y Ddeddf hon—

(a)

mae cyfeiriadau at waredu deunydd drwy dirlenwi i’w dehongli yn unol ag adran 4;

(b)

mae cyfeiriadau at waredu deunydd fel gwastraff i’w dehongli yn unol ag adran 6 (a gweler adran 7 hefyd);

(c)

mae cyfeiriadau at weithgarwch safle tirlenwi penodedig i’w dehongli yn unol ag adran 8;

(d)

mae cyfeiriadau at berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy i’w dehongli yn unol ag adran 34(2).

(3)

At ddibenion y Ddeddf hon, mae apêl wedi ei dyfarnu’n derfynol—

(a)

pan fydd dyfarniad wedi ei roi, a

(b)

pan na fo unrhyw bosibilrwydd pellach o amrywio’r dyfarniad na’i roi o’r neilltu (gan ddiystyru unrhyw bŵer i roi caniatâd i apelio ar ôl yr amser a bennir ar gyfer dwyn apêl).

(4)

At ddibenion y Ddeddf hon, gellir llunio disgrifiad drwy gyfeirio at unrhyw faterion neu amgylchiadau.