RHAN 6DARPARIAETHAU TERFYNOL

95Rheoliadau sy’n newid cyfraddau treth

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i offeryn statudol nad yw ond yn cynnwys—

(a)

yr ail reoliadau neu reoliadau dilynol a wneir o dan—

(i)

adran 14(3) (cyfradd dreth safonol);

(ii)

adran 14(6) (cyfradd dreth is);

(iii)

adran 46(4) (cyfradd dreth gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi);

(b)

rheoliadau a wneir o dan adran 93 sy’n gwneud darpariaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn rheoliadau o fewn paragraff (a), mewn cysylltiad â darpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn iddi.

(2)

Rhaid gosod yr offeryn statudol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)

Oni chymeradwyir yr offeryn drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, mae’r rheoliadau yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(4)

Ond—

(a)

os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio ar gynnig am benderfyniad i gymeradwyo’r offeryn cyn diwrnod olaf y cyfnod hwnnw, a

(b)

os na chaiff y cynnig ei basio,

maent yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais.

(5)

Mewn perthynas â’r rheoliadau—

(a)

os ydynt yn peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (3) neu (4),

(b)

os gwnaed gwarediad trethadwy ar adeg pan oeddent mewn grym, ac

(c)

os yw swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad yn rhinwedd y rheoliadau yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi fel arall,

mae’r rheoliadau i’w trin fel pe na baent erioed wedi cael effaith mewn perthynas â’r gwarediad hwnnw.

(6)

Wrth gyfrifo’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adrannau (3) a (4), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)

wedi ei ddiddymu, neu

(b)

ar doriad am fwy na 4 diwrnod.