RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 7AMRYWIOL
Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
92Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar y diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym yn llawn neu cyn hynny.
(2)
Rhaid i’r Cynllun wneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau gan Weinidogion Cymru i bersonau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y byddant yn hyrwyddo neu’n gwella llesiant cymdeithasol neu amgylcheddol ardaloedd yng Nghymru a effeithir gan—
(a)
gwneud gwarediadau tirlenwi, neu
(b)
gweithgareddau sy’n baratoadol ar gyfer gwneud gwarediadau tirlenwi.
(3)
Caiff y Cynllun ddarparu i’r grantiau—
(a)
cael eu dyrannu drwy gyfeirio at feini prawf a bennir yn y Cynllun;
(b)
bod yn ddarostyngedig i amodau a bennir yn y Cynllun neu gan Weinidogion Cymru.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
adolygu’r Cynllun—
(i)
o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf, a
(ii)
yn dilyn hynny, o leiaf unwaith yn ystod pob cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr adolygiad blaenorol, a
(b)
ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy pan fyddant yn gwneud hynny.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddirymu’r Cynllun ar ôl cynnal adolygiad; ond ni chaniateir dirymu’r Cynllun o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf.
(6)
Os caiff y Cynllun ei ddiwygio, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cynllun diwygiedig.
(7)
Rhaid i Weinidogion Cymru osod y Cynllun, ac unrhyw Gynllun diwygiedig, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.