RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY
PENNOD 3GWAREDIADAU ESEMPT
9Esemptiadau: cyffredinol
(1)
Mae’r Bennod hon yn darparu esemptiad rhag treth ar gyfer gwarediadau deunydd penodol a fyddai fel arall i’w trin fel gwarediadau trethadwy.
(2)
Nid yw gwarediad deunydd sy’n esempt rhag treth yn warediad trethadwy.
(3)
Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at warediad deunydd yn cynnwys cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig mewn perthynas â deunydd.