89Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedigLL+C
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i reolwr safle tirlenwi awdurdodedig, neu ran o safle o’r fath, dalu’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar y safle neu’r rhan o dan sylw, ac mewn cysylltiad â hynny.
(2)Mewn perthynas â rheolwr safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath—
(a)mae’n berson, ac eithrio gweithredwr y safle, sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau deunyddiau y caniateir eu gwneud ledled y safle neu’r rhan o dan sylw, ond
(b)nid yw’n cynnwys person sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau a wneir dim ond oherwydd bod y person yn gyflogai neu’n asiant i berson arall.
(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—
(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu os yw person yn dod, neu’n peidio â bod, yn rheolwr ar safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath;
(b)ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol i reolwr dalu treth;
(c)ar gyfer pennu swm y dreth y mae’n ofynnol i reolwr ei dalu;
(d)ynglŷn â’r berthynas rhwng gofyniad i reolwr dalu treth ac unrhyw rwymedigaeth ar weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig i dalu treth;
(e)ynglŷn â’r weithdrefn i’w gwneud yn ofynnol i reolwr dalu treth;
(f)ynglŷn â pha bryd y mae’n rhaid talu’r dreth;
(g)ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;
(h)ar gyfer cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;
(i)ar gyfer adolygiadau ac apelau.
(4)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 89 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3