RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 7AMRYWIOL
Darpariaeth bellach mewn perthynas â’r dreth
I1I289Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i reolwr safle tirlenwi awdurdodedig, neu ran o safle o’r fath, dalu’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar y safle neu’r rhan o dan sylw, ac mewn cysylltiad â hynny.
2
Mewn perthynas â rheolwr safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath—
a
mae’n berson, ac eithrio gweithredwr y safle, sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau deunyddiau y caniateir eu gwneud ledled y safle neu’r rhan o dan sylw, ond
b
nid yw’n cynnwys person sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau a wneir dim ond oherwydd bod y person yn gyflogai neu’n asiant i berson arall.
3
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—
a
sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu os yw person yn dod, neu’n peidio â bod, yn rheolwr ar safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath;
b
ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol i reolwr dalu treth;
c
ar gyfer pennu swm y dreth y mae’n ofynnol i reolwr ei dalu;
d
ynglŷn â’r berthynas rhwng gofyniad i reolwr dalu treth ac unrhyw rwymedigaeth ar weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig i dalu treth;
e
ynglŷn â’r weithdrefn i’w gwneud yn ofynnol i reolwr dalu treth;
f
ynglŷn â pha bryd y mae’n rhaid talu’r dreth;
g
ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;
h
ar gyfer cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;
i
ar gyfer adolygiadau ac apelau.
4
Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.