Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

88Addasu contractau
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo—

(a)gwarediad trethadwy yn cael ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig,

(b)contract sy’n ymwneud â’r gwarediad trethadwy sy’n darparu i daliad gael ei wneud, ac

(c)ar ôl gwneud y contract, y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy yn newid o ganlyniad i ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth,

mae swm y taliad y darperir ar ei gyfer o dan y contract i’w addasu, oni bai bod y contract yn darparu fel arall, i adlewyrchu’r newid yn y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy.

(2)At ddibenion yr adran hon, mae contract sy’n ymwneud â gwarediad trethadwy yn gontract sy’n darparu ar gyfer gwaredu’r deunydd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy, ac nid yw’n berthnasol pa un a yw’r contract hefyd yn darparu ar gyfer materion eraill ai peidio.

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at newid yn y dreth sydd i’w chodi yn gyfeiriad at—

(a)newid o fod dim treth i’w chodi i fod treth i’w chodi,

(b)newid o fod treth i’w chodi i fod dim treth i’w chodi, neu

(c)newid yn swm y dreth sydd i’w godi.