RHAN 5DARPARIAETH ATODOL

PENNOD 6ACHOSION ARBENNIG

Personau sy’n rhedeg busnes tirlenwi yn newid

87Pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol

(1)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i sicrhau dilyniant wrth gymhwyso unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth pan drosglwyddir busnes tirlenwi o un person i un arall fel busnes gweithredol.

(2)

Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)

sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu am y trosglwyddiad;

(b)

i unrhyw rwymedigaeth neu ddyletswydd ar ran y trosglwyddwr mewn perthynas â’r dreth ddod yn rhwymedigaeth neu’n ddyletswydd i’r trosglwyddai;

(c)

i unrhyw hawlogaeth ar ran y trosglwyddwr i ollwng neu ad-dalu swm o dreth, pa un a yw’n codi cyn y trosglwyddiad neu ar ei ôl, ddod yn hawlogaeth i’r trosglwyddai;

(d)

i unrhyw beth a wnaed cyn y trosglwyddiad gan y trosglwyddwr neu mewn perthynas â’r trosglwyddwr gael ei drin at ddibenion y dreth fel pe bai wedi ei wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas â’r trosglwyddai;

(e)

ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel.

(3)

Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n gymwys yn ddarostyngedig i amodau, ac yn benodol cânt—

(a)

darparu ei bod yn ofynnol cael cymeradwyaeth ACC cyn cymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (2)(b) i (e) i drosglwyddwr a throsglwyddai;

(b)

gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth a phenderfynu arnynt.

(4)

Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)

cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;

(b)

adolygiadau ac apelau.

(5)

Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.