RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 6ACHOSION ARBENNIG
Partneriaethau a chyrff anghorfforedig
I1I282Cofrestru partneriaethau a chyrff anghorfforedig a newidiadau mewn aelodaeth
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo dau berson neu ragor yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig.
2
Caiff ACC gofrestru’r personau o dan eu henwau eu hunain neu o dan enw’r bartneriaeth neu’r corff.
3
Pan fo’r personau wedi eu cofrestru o dan enw’r bartneriaeth neu’r corff a bod ei haelodaeth neu ei aelodaeth yn newid, mae’r personau sy’n aelodau ar ôl y newid yn parhau i fod yn gofrestredig o dan yr enw hwnnw os oedd o leiaf un ohonynt yn aelod cyn y newid.
4
Mae person sy’n peidio â bod yn aelod o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn aelod hyd y dyddiad y rhoddir hysbysiad am y newid mewn aelodaeth i ACC o dan adran 36.
5
Mae is-adran (4) yn gymwys at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth, ond mae’n ddarostyngedig i adran 36(3) o Ddeddf Partneriaeth 1890 (p. 39) (rhwymedigaeth ystad yn sgil marwolaeth neu fethdaliad).