Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Valid from 25/01/2018

82Cofrestru partneriaethau a chyrff anghorfforedig a newidiadau mewn aelodaethLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo dau berson neu ragor yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig.

(2)Caiff ACC gofrestru’r personau o dan eu henwau eu hunain neu o dan enw’r bartneriaeth neu’r corff.

(3)Pan fo’r personau wedi eu cofrestru o dan enw’r bartneriaeth neu’r corff a bod ei haelodaeth neu ei aelodaeth yn newid, mae’r personau sy’n aelodau ar ôl y newid yn parhau i fod yn gofrestredig o dan yr enw hwnnw os oedd o leiaf un ohonynt yn aelod cyn y newid.

(4)Mae person sy’n peidio â bod yn aelod o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn aelod hyd y dyddiad y rhoddir hysbysiad am y newid mewn aelodaeth i ACC o dan adran 36.

(5)Mae is-adran (4) yn gymwys at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth, ond mae’n ddarostyngedig i adran 36(3) o Ddeddf Partneriaeth 1890 (p. 39) (rhwymedigaeth ystad yn sgil marwolaeth neu fethdaliad).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)