RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 6ACHOSION ARBENNIG
Grwpiau corfforaethol
81Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynglŷn â dynodi grwpiau o gwmnïau
(1)
Caiff rheoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth ynglŷn â dynodi grwpiau o gyrff corfforaethol, ei diddymu neu ei diwygio fel arall.
(2)
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill) ynglŷn â’r cyrff corfforaethol y caniateir eu dynodi’n aelodau o grŵp ac ynglŷn ag effeithiau dynodiad.