RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 6ACHOSION ARBENNIG
Grwpiau corfforaethol
78Amodau ar gyfer dynodi yn aelod o grŵp
(1)
Ni chaniateir dynodi corff corfforaethol yn aelod o grŵp onid yw—
(a)
yn cyflawni gweithrediadau trethadwy neu’n bwriadu gwneud hynny, a
(b)
o dan yr un rheolaeth â phob aelod arall o’r grŵp.
(2)
Mae dau gorff corfforaethol neu ragor o dan yr un rheolaeth os yw—
(a)
un ohonynt yn rheoli’r lleill i gyd,
(b)
un corff corfforaethol neu unigolyn yn eu rheoli hwy i gyd, neu
(c)
dau unigolyn neu ragor sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth yn eu rheoli hwy i gyd.
(3)
At ddibenion is-adran (2)—
(a)
mae un corff corfforaethol (“A”) yn rheoli corff corfforaethol arall (“B”) os yw—
(i)
y pŵer i reoli gweithgareddau B yn cael ei roi i A gan neu o dan ddeddfiad, neu
(ii)
A yn gwmni daliannol i B;
(b)
mae unigolyn neu unigolion yn rheoli corff corfforaethol pe byddai neu pe byddent, pe bai’r unigolyn neu’r unigolion yn gwmni, yn gwmni daliannol i’r corff.
(4)
Yn is-adran (3), mae i “cwmni daliannol” yr ystyr a roddir i “holding company” gan adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46), ac Atodlen 6 iddi.