RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 5COSBAU YCHWANEGOL O DAN DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016
76Cosbau am fethiannau lluosog i dalu treth mewn pryd
“122ZACosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn pryd
(1)
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—
(a)
yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a
(b)
yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).
(2)
Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—
(a)
nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a
(b)
caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.
(3)
Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—
(a)
swm B, a
(b)
sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.
(4)
Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(5)
Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(6)
Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(7)
Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)(b).”