Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

76Cosbau am fethiannau lluosog i dalu treth mewn pryd

This section has no associated Explanatory Notes

Ar ôl adran 122 o DCRhT (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (a amnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT) mewnosoder—

122ZACosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn pryd

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—

(a)swm B, a

(b)sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).