RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 5COSBAU YCHWANEGOL O DAN DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016
75Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd
Yn adran 122 o DCRhT (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd) (a amnewidir gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT), yn lle is-adran (2) rhodder—
“(2)
Y gosb—
(a)
mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;
(b)
mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.”