Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

72Atebolrwydd cynrychiolwyr personolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw person sy’n agored i gosb o dan y Bennod hon (“P”) wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar P ar gynrychiolwyr personol P.

(2)Mae cosb a asesir yn unol ag is-adran (1) i’w thalu o ystad P.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 72 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(v)