Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

7Gwaredu deunydd fel gwastraff: person sy’n gyfrifol am warediad

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn nodi pwy yw’r person sy’n gyfrifol am warediad at ddibenion adran 6.

(2)Yn achos gwarediad a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n weithredwr y safle ar adeg y gwarediad.

(3)Ond os gwneir y gwarediad heb ganiatâd y gweithredwr, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwneud y gwarediad.

(4)Gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yw deiliad y drwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi ar y safle.

(5)Yn achos gwarediad a wneir yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwneud y gwarediad.