Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

7Gwaredu deunydd fel gwastraff: person sy’n gyfrifol am warediadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn nodi pwy yw’r person sy’n gyfrifol am warediad at ddibenion adran 6.

(2)Yn achos gwarediad a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n weithredwr y safle ar adeg y gwarediad.

(3)Ond os gwneir y gwarediad heb ganiatâd y gweithredwr, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwneud y gwarediad.

(4)Gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yw deiliad y drwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi ar y safle.

(5)Yn achos gwarediad a wneir yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwneud y gwarediad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3