RHAN 5DARPARIAETH ATODOL

PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON

Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

69Asesu cosbau o dan adran 68

(1)

Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 68, rhaid i ACC

(a)

asesu’r gosb, a

(b)

dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a asesir.

(2)

Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 68 gydag asesiad treth.

(3)

Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 68 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person yn agored i’r gosb.