xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5DARPARIAETH ATODOL

PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON

Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

69Asesu cosbau o dan adran 68

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 68, rhaid i ACC

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a asesir.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 68 gydag asesiad treth.

(3)Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 68 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person yn agored i’r gosb.