RHAN 5DARPARIAETH ATODOL

PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON

Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru

67Asesu cosbau o dan adrannau 64 a 66

(1)

Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 64 neu 66, rhaid i ACC

(a)

asesu’r gosb, a

(b)

dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.

(2)

Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 64(1) neu 66 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n ddechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf fod y person yn agored i’r gosb.

(3)

Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 64(2) o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau a’r diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef.