RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON
Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru
65Esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio
(1)
Os yw person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol am y toriad, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 64 mewn cysylltiad â’r toriad.
(2)
At ddibenion yr adran hon—
(a)
pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r toriad;
(b)
pan fu gan berson esgus rhesymol am doriad ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os yw’r toriad yn cael ei unioni heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.