RHAN 5DARPARIAETH ATODOL

PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON

Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy deunydd

63Asesu cosbau o dan adrannau 61 a 62

(1)

Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan adran 61 neu 62, rhaid i ACC

(a)

asesu’r gosb, a

(b)

dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.

(2)

Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 gydag asesiad treth.

(3)

Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.