RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 3YMCHWILIO A GWYBODAETH
60Datgelu gwybodaeth i ACC
(1)
Caiff person o fewn is-adran (2) ddatgelu gwybodaeth i ACC at ddiben cynorthwyo ACC i gasglu a rheoli’r dreth.
(2)
Y personau yw—
(a)
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b)
Corff Adnoddau Naturiol Cymru.
(3)
Nid yw datgeliad o dan yr adran hon yn torri—
(a)
unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu
(b)
unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y caiff ei osod).
(4)
Ond nid oes dim yn yr adran hon yn awdurdodi datgeliad—
(a)
sy’n F1torri'r ddeddfwriaeth diogelu data , neu
(b)
a waherddir gan unrhyw un neu ragor o Rannau 1 i 7 neu Bennod 1 o Ran 9 o Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (p. 25).
(5)
Hyd nes y bydd diddymiad Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (p. 23) gan baragraffau 45 a 54 o Atodlen 10 i Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (p. 25) mewn grym yn llwyr, mae is-adran (4)(b) yn cael effaith fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Rhan honno.
(6)
Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan unrhyw berson i ddatgelu gwybodaeth sy’n bodoli ar wahân i’r adran hon.
(7)
Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (2) er mwyn ychwanegu, diwygio neu ddileu cyfeiriad at berson neu at ddisgrifiad o bersonau.
F2(8)
Yn yr adran hon, mae i “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “the data protection legislation” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o'r Ddeddf honno).