RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY

PENNOD 2GWAREDIADAU TRETHADWY

6Gwaredu deunydd fel gwastraff

(1)

Gwaredir deunydd fel gwastraff os yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu.

(2)

Gellir dod i’r casgliad bod bwriad i fwrw deunydd o’r neilltu ar sail amgylchiadau ei waredu, ac yn benodol ar sail y ffaith (os digwydd hynny) bod y deunydd wedi ei ddodi mewn man gwarediadau tirlenwi.

(3)

Nid yw’r canlynol i’w trin fel pe baent yn anghyson â bwriad i fwrw deunydd o’r neilltu⁠—

(a)

gwneud defnydd dros dro o’r deunydd, neu ddefnydd ohono sy’n atodol i’w waredu drwy dirlenwi;

(b)

cael budd o’r deunydd neu o unrhyw beth a allyrrir ganddo (er enghraifft, defnyddio nwy a gynhyrchir wrth i’r deunydd bydru i gynhyrchu trydan).

(4)

Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd fel gwastraff (gan gynnwys drwy ddiwygio’r adran hon neu unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r dreth).