xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CDARPARIAETH ATODOL

PENNOD 2LL+CMANNAU NAD YDYNT AT DDIBENION GWAREDU

57Dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C

(1)Pan fo rhan o safle tirlenwi awdurdodedig wedi ei dynodi’n fan nad yw at ddibenion gwaredu, rhaid i weithredwr y safle gadw cofnodion sy’n ymwneud â deunydd a ddodir yn y man.

(2)Rhaid i’r cofnodion fod yn ddigonol i alluogi ACC i benderfynu pa un a yw’r gweithredwr yn cydymffurfio ag adran 56 mewn perthynas â’r deunydd, neu a yw wedi cydymffurfio â’r adran honno.

(3)Caiff ACC bennu—

(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r cofnodion, a

(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddynt.

(4)Rhaid i’r gweithredwr storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y cyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y deunydd ei symud o’r man nad yw at ddibenion gwaredu, neu’r dyddiad y mae’n peidio â bod yn ddeunydd o ddisgrifiad y mae’n rhaid ei ddodi yn y man, pa un bynnag sydd gynharaf.

(5)Ond gall cytundeb a roddir o dan adran 56(4)(a) mewn perthynas â deunydd ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr storio’r cofnodion sy’n ymwneud â’r deunydd yn ddiogel am gyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â dyddiad gwahanol (boed gynharach neu ddiweddarach) i’r un a bennir yn is-adran (4).

(6)Gweler Pennod 2 o Ran 3 o DCRhT am ddyletswyddau eraill i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel sy’n gymwys pan gaiff gwarediad trethadwy ei drin fel pe bai wedi ei wneud yn rhinwedd adran 8(3)(g).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 57(3) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(q)