RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 2MANNAU NAD YDYNT AT DDIBENION GWAREDU
55Dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu
(1)
Caiff ACC ddynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru yn fan nad yw at ddibenion gwaredu drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle.
(2)
Rhaid i hysbysiad sy’n dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu bennu—
(a)
y safle tirlenwi awdurdodedig y mae’n ymwneud ag ef,
(b)
ffiniau’r man a ddynodir ganddo, ac
(c)
y dyddiad y mae dynodiad y man yn cael effaith.
(3)
Mewn perthynas â’r hysbysiad—
(a)
rhaid iddo bennu’r disgrifiadau o ddeunydd y mae’n rhaid ei ddodi yn y man nad yw at ddibenion gwaredu,
(b)
caiff bennu disgrifiadau o ddeunydd na chaniateir ei ddodi yn y man hwnnw,
(c)
rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i bwysau unrhyw ddeunydd a ddodir yn y man neu a symudir ymaith o’r man gael ei ganfod drwy ddefnyddio dull a bennir yn yr hysbysiad,
(d)
caiff bennu uchafswm y deunydd y caniateir ei gadw yn y man,
(e)
rhaid iddo bennu’r gweithgarwch safle tirlenwi y caniateir ei gyflawni yn y man, ac
(f)
rhaid iddo bennu’r cyfnod hwyaf y caniateir cadw deunydd yn y man.
(4)
Caiff y ddarpariaeth a wneir gan yr hysbysiad o dan is-adran (3) gynnwys—
(a)
darpariaeth sy’n ddarostyngedig i amodau neu eithriadau, a
(b)
darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol (gan gynnwys disgrifiadau gwahanol o ddeunydd).
(5)
Caiff ACC amrywio neu ganslo dynodiad o dan yr adran hon drwy ddyroddi hysbysiad pellach i weithredwr y safle.
(6)
Mewn perthynas â hysbysiad sy’n amrywio neu’n canslo dynodiad—
(a)
rhaid iddo nodi manylion yr amrywio neu’r canslo,
(b)
rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae’n cael effaith, ac
(c)
caiff bennu’r camau y mae’n ofynnol i’r gweithredwr eu cymryd mewn cysylltiad â’r amrywio neu’r canslo, neu’r camau y caniateir iddo eu cymryd mewn cysylltiad â hynny.
(7)
Caiff ACC wneud, amrywio neu ganslo dynodiad o dan yr adran hon—
(a)
ar gais gweithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r dynodiad yn ymwneud ag ef, neu
(b)
ar ei gymhelliad ei hun.
(8)
Rhaid i gais i ddynodi, i amrywio neu i ganslo gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.
(9)
Os yw ACC yn gwrthod cais, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig.
(10)
Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr hyn sydd i’w gynnwys mewn hysbysiad a ddyroddir o dan yr adran hon.