xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff ACC ddynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru yn fan nad yw at ddibenion gwaredu drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle.
(2)Rhaid i hysbysiad sy’n dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu bennu—
(a)y safle tirlenwi awdurdodedig y mae’n ymwneud ag ef,
(b)ffiniau’r man a ddynodir ganddo, ac
(c)y dyddiad y mae dynodiad y man yn cael effaith.
(3)Mewn perthynas â’r hysbysiad—
(a)rhaid iddo bennu’r disgrifiadau o ddeunydd y mae’n rhaid ei ddodi yn y man nad yw at ddibenion gwaredu,
(b)caiff bennu disgrifiadau o ddeunydd na chaniateir ei ddodi yn y man hwnnw,
(c)rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i bwysau unrhyw ddeunydd a ddodir yn y man neu a symudir ymaith o’r man gael ei ganfod drwy ddefnyddio dull a bennir yn yr hysbysiad,
(d)caiff bennu uchafswm y deunydd y caniateir ei gadw yn y man,
(e)rhaid iddo bennu’r gweithgarwch safle tirlenwi y caniateir ei gyflawni yn y man, ac
(f)rhaid iddo bennu’r cyfnod hwyaf y caniateir cadw deunydd yn y man.
(4)Caiff y ddarpariaeth a wneir gan yr hysbysiad o dan is-adran (3) gynnwys—
(a)darpariaeth sy’n ddarostyngedig i amodau neu eithriadau, a
(b)darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol (gan gynnwys disgrifiadau gwahanol o ddeunydd).
(5)Caiff ACC amrywio neu ganslo dynodiad o dan yr adran hon drwy ddyroddi hysbysiad pellach i weithredwr y safle.
(6)Mewn perthynas â hysbysiad sy’n amrywio neu’n canslo dynodiad—
(a)rhaid iddo nodi manylion yr amrywio neu’r canslo,
(b)rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae’n cael effaith, ac
(c)caiff bennu’r camau y mae’n ofynnol i’r gweithredwr eu cymryd mewn cysylltiad â’r amrywio neu’r canslo, neu’r camau y caniateir iddo eu cymryd mewn cysylltiad â hynny.
(7)Caiff ACC wneud, amrywio neu ganslo dynodiad o dan yr adran hon—
(a)ar gais gweithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r dynodiad yn ymwneud ag ef, neu
(b)ar ei gymhelliad ei hun.
(8)Rhaid i gais i ddynodi, i amrywio neu i ganslo gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.
(9)Os yw ACC yn gwrthod cais, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig.
(10)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr hyn sydd i’w gynnwys mewn hysbysiad a ddyroddir o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 55 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(p)