RHAN 5DARPARIAETH ATODOL

PENNOD 1CREDYDAU TRETH

54Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth

(1)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo person i fod â hawlogaeth i gredyd treth mewn cysylltiad â’r dreth.

(2)

Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)

ynghylch amodau y mae hawlogaeth i gredyd i fod yn ddarostyngedig iddynt;

(b)

ynghylch swm credyd;

(c)

ynghylch y ffordd y mae person sydd â hawlogaeth i gredyd i gael budd ohono (er enghraifft, darpariaeth i dynnu didyniadau o’r dreth a fyddai fel arall i’w chodi ar berson, ac i daliadau gael eu rhoi i berson, mewn amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau);

(d)

ynghylch y weithdrefn ar gyfer hawlio credyd (er enghraifft, darpariaeth ynghylch gwybodaeth sydd i’w darparu gan hawlydd i ategu hawliad);

(e)

ynghylch amodau y mae unrhyw fudd mewn cysylltiad â chredyd i fod yn ddarostyngedig iddynt, neu y caiff fod yn ddarostyngedig iddynt, (er enghraifft, amodau sy’n gwneud taliadau neu ad-daliadau i ACC yn ofynnol, o dan amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau);

(f)

ynghylch amgylchiadau y caiff ACC atal credyd oddi tanynt;

(g)

sy’n caniatáu i ACC ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth a dogfennau gael eu darparu, ac yn caniatáu i ACC archwilio mangreoedd, naill ai mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan y rheoliadau, neu fel arall at ddiben cadarnhau sefyllfa person o ran hawlogaeth i gredyd, neu o ran gofyniad i roi ad-daliad i ACC o dan y rheoliadau;

(h)

ynghylch dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;

(i)

ar gyfer cosbau mewn cysylltiad ag achosion o fethu â chydymffurfio â gofynion a osodir gan y rheoliadau neu oddi tanynt;

(j)

ynghylch adolygiadau ac apelau.

(3)

Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.