RHAN 4GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR MEWN LLEOEDD HEBLAW SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y WEITHDREFN AR GYFER CODI’R DRETH
53Llog taliadau hwyr
(1)
Mae adran 157 o DCRhT (llog taliadau hwyr ar drethi datganoledig) (a amnewidir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)
Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i swm o dreth gwarediadau tirlenwi a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 49 neu 50 o DTGT.”
(3)
Yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(c)
yn achos swm sydd o fewn is-adran (1A), y dyddiad sy’n union ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn adran 51 o DTGT.”