RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY
PENNOD 2GWAREDIADAU TRETHADWY
5Safleoedd tirlenwi awdurdodedig a thrwyddedau amgylcheddol
(1)
Mae tir yn safle tirlenwi awdurdodedig os yw trwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi mewn grym mewn perthynas â’r tir.
(2)
Trwydded a roddir o dan reoliadau a wneir o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p. 24) yw trwydded amgylcheddol.