RHAN 4GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR MEWN LLEOEDD HEBLAW SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y WEITHDREFN AR GYFER CODI’R DRETH
48Pŵer i ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol
(1)
Caiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson os ymddengys i ACC—
(a)
bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a
(b)
bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad (gweler adran 47).
(2)
Rhaid i hysbysiad rhagarweiniol—
(a)
nodi’r tir lle yr ymddengys fod y gwarediad trethadwy wedi ei wneud;
(b)
disgrifio amgylchiadau’r gwarediad a natur y deunydd a waredwyd, i’r graddau y maent yn hysbys i ACC;
(c)
datgan pryd yr ymddengys y gwnaed y gwarediad, ac os yw ACC wedi amcangyfrif pryd y gwnaed y gwarediad, esbonio sut y mae ACC wedi amcangyfrif hynny;
(d)
esbonio pam fod ACC o’r farn fod y person y dyroddir yr hysbysiad iddo yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad;
(e)
datgan swm y dreth y bwriedir ei godi ar y gwarediad;
(f)
esbonio sut y cyfrifwyd y swm hwnnw, gan gynnwys y dull a ddefnyddiodd ACC i bennu pwysau trethadwy’r deunydd a waredwyd.
(3)
Rhaid i hysbysiad rhagarweiniol hefyd hysbysu’r person y’i dyroddir iddo—
(a)
y dyroddir hysbysiad o dan adran 49 ar ôl diwedd 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad rhagarweiniol,
(b)
y caiff y person wneud cais i ACC ymestyn y cyfnod hwnnw, ac
(c)
y caiff y person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i ACC unrhyw bryd cyn y dyroddir hysbysiad o dan adran 49.
(4)
Caiff un hysbysiad rhagarweiniol ymwneud â mwy nag un gwarediad trethadwy neu â nifer heb ei ganfod o warediadau trethadwy.
(5)
Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy na 4 blynedd ar ôl i ACC ddod yn ymwybodol o unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(6)
Ni chaiff ACC ychwaith ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy nag 20 mlynedd ar ôl yr adeg yr ymddengys i ACC y gwnaed unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.