RHAN 4GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR MEWN LLEOEDD HEBLAW SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y WEITHDREFN AR GYFER CODI’R DRETH
47Yr amod ar gyfer codi treth
1
At ddibenion y Bennod hon, mae person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os yw’r person—
a
wedi gwneud y gwarediad, neu
b
wedi achosi neu ganiatáu i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny.
2
At ddibenion is-adran (1)(b)—
a
mae person a oedd, pan wnaed y gwarediad, yn rheoli, neu mewn sefyllfa i reoli, cerbyd modur neu ôl-gerbyd y gwnaed y gwarediad ohono i’w drin fel pe bai wedi achosi i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny, a
b
mae person a oedd, pan wnaed y gwarediad, yn berchennog, yn lesddeiliad neu’n feddiannydd y tir lle y gwnaed y gwarediad i’w drin fel pe bai wedi caniatáu i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny,
oni bai bod y person yn bodloni ACC neu (ar apêl) y tribiwnlys nad achosodd neu na chaniataodd y person i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny.
3
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—
a
amgylchiadau pan fo person i’w drin fel pe bai’n bodloni (neu heb fod yn bodloni) yr amod ar gyfer codi treth, neu
b
materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu a yw person yn bodloni (neu heb fod yn bodloni) yr amod hwnnw.
4
Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.