RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH
Talu, adennill ac ad-dalu treth
45Dim gofyniad i ollwng neu ad-dalu treth oni thelir yr holl dreth
Yn adran 67 o DCRhT (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad), ar ôl is-adran (11) mewnosoder—
“(12)
Achos 8 yw—
(a)
pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a
(b)
pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.”