RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH
Talu, adennill ac ad-dalu treth
44Gohirio adennill
(1)
Mae adran 181B o DCRhT (ceisiadau i ohirio) (a fewnosodir gan baragraff 63 o Atodlen 23 i DTTT) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn is-adran (3)—
(a)
hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a), a
(b)
“, ac
(c)
pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, y rhesymau pam y mae’r person sy’n gwneud y cais yn credu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person.”
(3)
Yn is-adran (4)—
(a)
daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a
(b)
“a
(b)
pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person,”.
(4)
Yn is-adran (5)—
(a)
daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a
(b)
“neu
(b)
pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol i’r person,
caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.”