RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH

Talu, adennill ac ad-dalu treth

43Dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwi

(1)

Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy gadw cofnod (sef “crynodeb treth gwarediadau tirlenwi”) o—

(a)

swm y dreth sydd i’w godi ar y person, a

(b)

y dreth a dalwyd gan y person,

mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.

(2)

Caiff ACC bennu—

(a)

ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi, a

(b)

yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.

(3)

Mae’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yn gywir ac yn gyflawn.