RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH

Talu, adennill ac ad-dalu treth

42Talu treth

(1)

Rhaid i berson sy’n dychwelyd ffurflen dreth dalu’r swm o dreth a nodir ar y ffurflen dreth fel y swm yr aseswyd ei fod i’w godi ar y person ar ddiwrnod ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.

F1(1A)

Ond os yw swm o gredyd treth wedi ei osod yn erbyn y swm hwnnw o dreth yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 54, y swm o dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dalu erbyn y dyddiad hwnnw yw’r swm sy’n parhau i fod yn weddill ar ôl y gosod yn erbyn (os oes unrhyw swm o’r fath).

(2)

Pan asesir bod swm o dreth i’w godi ar y person o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i’r ffurflen dreth o dan adran 41 o DCRhT (trethdalwr yn diwygio ffurflen dreth), rhaid i’r person dalu’r swm—

(a)

os gwneir y diwygiad ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny, ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, neu

(b)

os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, ar y diwrnod y mae’r person yn rhoi hysbysiad i ACC am y diwygiad.

(3)

Gweler y darpariaethau a ganlyn yn DCRhT am ddarpariaeth ynghylch talu symiau o dreth mewn amgylchiadau eraill—

  • adran 42(4A) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir i ffurflen dreth gan ACC);

  • adran 45(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen dreth yn ystod ymholiad);

  • adran 50(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen dreth ar ôl cwblhau ymholiad);

  • adran 52(5) (swm sy’n daladwy yn unol â dyfarniad ACC);

  • adran 61(2) (swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC).