RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH
Cyfrifo treth
41Y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifyddu
(1)
Mae’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo.
(2)
Ond os yw’r person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy ar y safle yn dyroddi anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â’r gwarediad o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gwarediad, mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w godi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y dyroddir yr anfoneb ynddo (yn hytrach na’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo).
(3)
Nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r gwarediad os yw’r person wedi rhoi hysbysiad i ACC, cyn dyroddi’r anfoneb dirlenwi, nad yw’r person yn dymuno manteisio arni.
(4)
Caiff y person amrywio’r hysbysiad, neu ei dynnu’n ôl, drwy roi hysbysiad pellach i ACC.
(5)
Caiff person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy, neu sy’n bwriadu gwneud hynny, wneud cais ysgrifenedig i ACC am gymhwyso is-adran (2)—
(a)
i’r holl warediadau trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy arno, neu
(b)
i ddisgrifiad o warediadau trethadwy a bennir yn y cais,
fel pe bai’r cyfeiriad at gyfnod o 14 o ddiwrnodau yn gyfeiriad at gyfnod hwy.
(6)
Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais; ac os yw ACC yn caniatáu’r cais, rhaid i’r hysbysiad bennu’r cyfnod hwy a’r gwarediadau trethadwy y mae’r cyfnod hwy i’w gymhwyso mewn perthynas â hwy.
(7)
Caiff ACC amrywio’r hysbysiad, neu ei dynnu’n ôl, drwy ddyroddi hysbysiad pellach i’r person.
(8)
Yn yr adran hon, ystyr “anfoneb dirlenwi” yw anfoneb—
(a)
a ddyroddir mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy, a
(b)
sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 3.
(9)
Caiff rheoliadau ddiwygio Atodlen 3.