RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH
Cyfrifo treth
40Pŵer i amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilio
(1)
Caiff ACC amrywio—
(a)
hyd cyfnod cyfrifyddu;
(b)
dyddiad ffeilio ffurflen dreth.
(2)
Gwneir amrywiad drwy ddyroddi hysbysiad i’r person y mae’r amrywiad yn gymwys iddo.
(3)
Rhaid i’r hysbysiad nodi manylion yr amrywiad.
(4)
Caiff ACC ddyroddi hysbysiad o dan yr adran hon naill ai—
(a)
ar gais person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy neu sy’n bwriadu gwneud hynny, neu
(b)
ar ei gymhelliad ei hun.
(5)
Rhaid i gais i amrywio gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.
(6)
Os yw ACC yn gwrthod cais i amrywio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r person a wnaeth y cais.